Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y Gymanwlad ydy Gemau'r Gymanwlad (a elwid yn Gemau Ymerodraeth Prydain (1930-1950), Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad (1954-1966) ac yn Gemau'r Gymanwlad Brydeinig (1970-1974).[1] Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn Hamilton, Ontario, Canada ym 1930 a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr Ail Ryfel Byd). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y Gemau Olympaidd a Gemau Asia.
Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.
Yn ogystal â nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys chwaraeon sy'n fwy poblogaidd yng Ngwledydd y Gymanwlad, fel bowlio lawnt, pêl-rwyd a rygbi saith bob ochr.
Er mai dim ond 53 o wledydd sydd yn aelodau o'r Gymanwlad, mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad Y Deyrnas Unedig; Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn cystadlu fel gwledydd ar wahân gyda Thiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig a Thiriogaethau sy'n ddibynnol ar Goron y Deyrnas Unedig hefyd yn gyrru timau.
Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.
|published=
ignored (help)